Cysylltu

Skillset Academi+
01633 432328
info@skillsetacademiplus.org

Fideo

Gwefannau Cysylltiedig

Skillset Media Academy Wales
Transform@lab
Cinovate
Academi+ on TwitterAcademi+ on FacebookAcademi+ on LinkedIn

Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiad Cyllid a Datblygu

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

Hoffai Academi+ Skillset eich gwahodd i ymuno â ni mewn Digwyddiad Diwydiant.
 
Digwyddiad Cyllid a Datblygu Academi+ Skillset & Media Antenna, 25ain o Fawrth
Mae Academi+ Skillset ar y cyd â MEDIA Antenna Cymru yn falch o gyhoeddi digwyddiad brys-rwydweithio gydag aelodau allweddol o’r Diwydiannau Creadigol – pobl sy’n gyfrifol am ddosbarthu arian datblygu!
 
Ymunwch â ni am brynhawn anffurfiol gyda chynrychiolwyr:
Cronfa Alpha Channel 4
Asiantaeth Ffilm Cymru
Llywodraeth Cymru
MEDIA Antenna
 
Bydd cyfle i chi siarad â phob un o’r bobl hyn mewn grwpiau bychain – a thros y cinio a’r coffi a ddarperir hefyd.
Dyddiad: 25 Mawrth
Amser: 11:30 -16:00
Lleoliad: Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AJ

I sicrhau eich lle:
http://www.eventbrite.co.uk/event/5669770436

Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

8-12 Ebrill, Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin
 
Mae Academi+ Skillset yn falch o gefnogi’r ŵyl sy’n annog ac yn cefnogi ffilm a sinema annibynnol yma yng Nghymru, yn y DG ac yn rhyngwladol. Fe fu’r ŵyl ac fe fydd hi wastad yn gefnogwr brwd o ffilm annibynnol! Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru ewch i www.carmarthenbayfilmfestival.co.uk
 
Pryd: 8 -12Ebrill
Lle: Gwesty Parc y Strade, Llanelli, Cymru

Digwyddiadau

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

Ym mis Mawrth, bydd Academi+ Skillset yn mynychu’r digwyddiadau canlynol – felly dewch draw i siarad â ni:
 
13 Mawrth – DigiDo, effeithiau technoleg ddigidol ar gymdeithas
Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru eich gwahodd i lansiad DigiDo. Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio’n ddiwyd ar ddigido ei chasgliadau. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad e-bostiwch dfbproject@llgc.org.uk
 
19 Mawrth – Creu Cymru Ddigidol Gyda’n Gilydd
Bydd y gynhadledd hon yn dod â chynrychiolwyr y llywodraeth, addysgwyr, cyflogwyr a Gweithwyr Proffesiynol TG at ei gilydd, er mwyn trafod y modd y gall darparu sgiliau roi hwb i economi TGCh. http://www.e-skills.com/digitalwales2013
  
20 Mawrth – Lansiad APS CEMAS, Marriott, Caerdydd.
Bydd Digwyddiad Lansio APS CEMAS yn cyflwyno detholiad o aps anhygoel a lansiwyd gan fusnesau bychain ac o faint canolig yng Nghymru trwy gyfrwng Rhaglen Cefnogi Busnes CEMAS. Ariennir CEMAS yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac mae ei swyddfa ym Mhrifysgol Morgannwg. Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.cemas.mobi/

19 Ebrill – Uwchgynhadledd Ffilm AFfC
Asiantaeth Ffilm Cymru’n cysylltu’r diwydiant â’i gynulleidfa
Bydd yr Arglwydd Puttnam, Ben Roberts o’r BFI a Rheolwr-gyfarwyddwr Ridley Scott Associates, Kai Lu Hsiung, yn ymuno â llu o arbenigwyr o’r diwydiant proffesiynol yn nigwyddiad Cysylltu Cynulleidfaoedd Asiantaeth Ffilm Cymru – diwrnod i bryfocio ac ysbrydoli, pan fydd gweithwyr proffesiynol o gadwyn werth byd ffilm, a’r diwydiannau creadigol ehangach, yn ystyried y berthynas newidiol rhwng cynulleidfaoedd a chynnwys creadigol mewn oes ddigidol o “gynnwys ar gais”. www.filmagencywales.com

24-26 Ebrill – Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
Mae Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd yn casglu ynghyd ddarlledwyr a sefydliadau ym meysydd ffilm, diwylliant a datblygu economaidd lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r Ŵyl dridiau o hyn yn yn ddathliad blynyddol o ddarlledu, ffilm, talent a rhagoriaeth yn yr Alban, Iwerddon, Cymru, Cernyw a Llydaw. www.celticmediafestival.co.uk

26 Mehefin – Gêmau Cymru

Y Syniad o Dwf

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

Mae’r deunydd darllen sy’n trafod y syniad o dwf yn yn trafod polisïau llywodraethol ar gyfer darparu hyfforddiant a chefnogaeth i fusnesau. Serch hynny, mae’r diffiniadau o’r hyn yw twf yn amrywio’n fawr – o dwf mewn cyflogaeth, i dwf mewn trosiant neu werthiant i dwf mewn enw da a masnach. Mae i bob un o’r diffiniadau hyn ei feirniaid. Mae McAuley a Clarke yn awgrymu bod twf ‘wedi’i fynegi yn nhermau gwerthiant, gweithwyr, asedau net neu elw, yn amhriodol, neu’n gul ar y gorau’.
 
Dolen at wybodaeth am ein Tiwtor, Dr Jonathan Deacon – http://www.isbe.org.uk/The-Notion-of-Growth

Dysgu Wrth Weithio

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

Mae Academi+ Skillset yn cynnig cyrsiau MA wedi’u hariannu’n llawn/rhannol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, er mwyn eu galluogi nhw i ddatblygu eu gyrfaoedd.̆ Byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr diwydiannol a fydd yn cyflwyno cyrsiau ar Fusnes a Marchnata, Darlledu, Dylunio, Sain, Animeiddio, Amlgyfryngau, Ffotograffiaeth, Aps a llawer iawn mwy.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Dysgu yn y Gwaith ac fe’i cyflwynir gyda chymorth Cronfa Cydgyfeirio Cymdeithasol Ewropeaidd yr UE (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Ar y cyd â Phrifysgol Cymru, Casnewydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Chaerdydd Fetropolitan.

Cyflwynir y cyrsiau gan arbenigwyr sydd wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant proffesiynol, fel Dreamworks, Pixar, BBC, ITV, Virgin Media a C4. Gall y cyrsiau hyn roi hwb i’ch gyrfa ac maent yn werth hyd at 60 credyd tuag at Radd Meistr.

Llysgenhadon

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013

Mae Academi+ Skillset yn chwilio am Lysgenhadon i’n helpu ni i ddatblygu. Dyma gyfle unigryw i chi ehangu eich rhwydweithiau ac i ddangos eich talent i aelodau o’r diwydiant proffesiynol. Os ydych chi wedi cwblhau cwrs gydag Academi+ Skillset ac yn ddweud wrth bobl greadigol eraill sut y gallan nhw hefyd fanteisio ar ein hyfforddiant, gadewch i ni wybod! Yn gyfnewid, fe gewch chi cyfle i hyrwyddo eich busnes ar ein gwefan trwy gyfrwng astudiaethau achos ac fe gewch chi wahoddiadau hefyd i ddigwyddiadau a dosbarthiadau meistr Academi+ Skillset ac Academi Gyfryngol Skillset.
 
Hoffech chi wneud cais i gael arddangos eich gwaith yng ngŵyl Cynllunio Llwyfan y Byd 2013, i’w gynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar y 5ed o Fedi?
Cyflwynwch eich ceisiadau erbyn y 15fed o Fawrth – i gael mwy o wybodaeth ewch i: http://www.creative-choices.co.uk/jobs-opportunities/details/4179

Straeon am Lwyddiant
Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cymryd rhan yn ein cyfres o Straeon am Lwyddiant – mae hwn yn gyfle gwych i chi arddangos eich gwaith a’ch talent yng Nghymru. Bydd y straeon ar gael yn fuan ar ffurf ffilmiau byrion ar ein gwefan.

Mae Creative Skillset Cymru wedi lansio ei GRONFA TALENT DDIGIDOL!

Dydd Iau, 25 Hydref 2012

Mae Creative Skillset Cymru wedi lansio ei GRONFA TALENT DDIGIDOL! – i gefnogi eich anghenion hyfforddiant at y diben.

Beth yw’r Gronfa Talent Ddigidol?
Nod Gronfa Talent Ddigidol Creative Skillset Cymru yw cynnig cefnogaeth i gwmnïau i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddiant at y diben gyda ffocws arbennig ar ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd y gellir eu hecsbloetio ar draws llwyfannau digidol lluosog ac mewn marchnadoedd rhyngwladol. Er enghraifft, gallai fod angen ar gwmni gyrchu sgiliau penodol yn gyflym, penodi arbenigwr yn y maes am gyfnod tymor byr prosiect, cynyddu sgiliau staff sy’n gweithio ar gynhyrchiad newydd neu anfon staff presennol ar hyfforddiant penodol.

Faint o gymorth sydd ar gael?
Mae cwmnïau wedi’u cyfyngu i wneud cais am ddyfarniad o £10,000, ac mae’n rhaid i’r cwmni sy’n cyflwyno’r cais ddarparu arian parod o 25% i gefnogi cost y prosiect/rhaglen. Mewn amgylchiadau eithriadol iawn gellid cynyddu’r uchafswm dyfarniad.

A ydych yn gymwys?
Rhaid i gwmnïau fod wedi’u lleoli yn neu’n cyflogi pobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, y Cymoedd neu Ogledd Orllewin Cymru. I weld y canllawiau cymhwysedd cliciwch fan hyn.

Sut i wneud cais
Mae’n rhaid i gwmnïau cymwys gwblhau a chyflwyno ffurflen gais ynghyd â thystiolaeth ddogfennol gefnogi i ddangos eu cymhwysedd drwy e-bost i Weinyddydd Prosiect Creative Skillset Cymru yn nerysr@creativeskillset.org erbyn  12.00 canol dydd ar ddydd Llun 12 Tachwedd 2012.  NI fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser/dyddiad hwn yn cael eu derbyn. Am gopi o’r ffurflen gais  cliciwch fan hyn.

Gwybodaeth pellach
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ar y Gronfa Talent Ddigidol yn cynnwys manylion y broses ymgeisio ewch i wefan Creative Skillset Cymru yn http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/digital_economy/index_2.asp neu cysylltwch â Jane Davies, Cydlynydd Prosiect yn Creative Skillset Cymru ar 02920 459154 neu e-bost janed@creativeskillset.org

Mae’r gweithgaredd hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Raglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol £4.5m Creative Skillset Cymru. Cefnogir y Rhaglen gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach i gynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol yng Nghymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) a Creative Skillset Cymru.

Media Academy Wales University of Wales, Newport
University of Aberystwyth
Swansea Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University
Work Based Learning Programme Welsh European Funding Office