Fel rhan o’r Rhaglen Ddysgu yn Seiliedig ar Waith mae Academi Gyfryngau Cymru Skillset a’i bartneriaid, Prifysgol Cymru Casnewydd; Prifysgol Aberystwyth ; Coleg Metropolitan Abertawe ac Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn lansio rhaglen hyfforddi gyda’r nod o ddiwallu anghenion gweithwyr cyflogedig a llawrydd y diwydiant yn ardal Cydgyfeiriant Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Rhedwyd cynllun peilot gwreiddiol Skillset Academi+ o 2009 i fis Mawrth 2011, gan helpu dros 350 aelod o’r diwydiant ar 54 o wahanol gyrsiau. Yn dilyn y cyfle hwn, ariannwyd gan HEFCW magodd yr Academi nifer o bartneriaethau gydag arbenigwyr, gan ennill enw da o hyfforddiant wedi ei dargedu oedd yn apelio at groestoriad eang o’r diwydiant. Mae ail gyfnod hyfforddi ar fin dechrau’r Hydref hwn, wedi ei ariannu gan Gronfa Gydgyfeiriant Cymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd (ESF) a Llywodraeth Cymru.
Ateb anghenion hyfforddiant Diwydiannau’r Creadigol
Mae technoleg ddigidol, ar y cyd â’r dirwasgiad, wedi sicrhau bod newidiadau yn niwydiant y Creadigol yn digwydd yn gynt o lawer y dyddiau hyn, ac mae hynny wedi trawsffurfio ein ffyrdd o weithio. Ffocws Academi+ Skillset yw galluogi cwmnïau a rhydd-gyfranwyr Cymreig i ail-sgilio trwy gyfrwng hyfforddiant hyblyg o safon uchel wedi’i deilwra’n benodol at anghenion y diwydiant yn yr oes ddigidol sydd ohoni.
Mae’r syniadaeth syn greiddiol i’r rhaglen hyfforddi hon yn tynnu ar dystiolaeth Skillset ynglŷn ag effaith y dirwasgiad a newidiadau ym myd technoleg ddigidol ar sector y Cyfryngau Creadigol yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil diweddar yn nodi’r sgiliau hynny sydd eu hangen ar gwmnïau a rhydd-gyfranwyr er mwyn goroesi’r storom economaidd a pharhau i fod yn gystadleuol.
Mae cynnwys y cyrsiau gaiff eu cynnig gan Academi+ Skillset wedi’i ddylanwadu’n gan adborth pobl broffesiynol y diwydiant sy’n gwybod yn iawn ble mae’r bylchau a pha hyfforddiant sydd ei angen.
Pwy all fanteisio ar gefnogaeth gan Academi+ Skillset?
Mae rhaglen Academi+ Skillset yn cefnogi’r rheiny sy’n gweithio yn niwydiant y cyfryngau creadigol. Pa un ai ydych chi’n newydd yn y maes neu’n hen law, waeth beth fyddo’ch statws presennol o fewn y diwydiant, mae hyfforddiant parhaol yn angenrheidiol. Diffinnir y diwydiant gan newidiadau ac, wrth i ni symud i’r oes ddigidol newydd, mae’r newidiadau hynny’n digwydd yn gynt ac yn gynt.
Ydych chi’n berchen ar neu’n rheoli cwmni cynhyrchu Cymreig?
Dyma eich cyfle chi i wella’ch sgiliau rheoli ac arwain, ennill sgiliau ôl-gynhyrchu o bwys a gwella’ch dealltwriaeth o brosesau busnes a datblygu. Mae ein ffocws ni ar y byd digidol newydd ac ar effeithiau hwnnw ar eich busnes chi ac ar y diwydiant cyfan.
Ydych chi’n gweithio i gwmni cynhyrchu neu’n rhydd-gyfrannwr yng Nghymru?
Dyma eich cyfle chi i wella ac ategu’ch sgiliau gyda’n cyrsiau galwedigaethol arloesol ni, fydd yn edrych ar feysydd allweddol fel creu cynnwys aml-blatfform, golygu, cyfarwyddo a chynhyrchu, sgriptio i lefel uchel, a sgiliau animeiddio arbenigol. Neu fe allech chi ehangu’ch dealltwriaeth o swyddogaethau cynhyrchu eraill neu ddatblygu eich sgiliau busnes neu barhau â’ch datblygiad personol.




















