Mae Academi+ Skillset yn rhaglen newydd o hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fydd yn darparu prosiectau Datblygiad Proffesiynol Parhaol arloesol. Gallwn eich help chi i ddatblygu sgiliau newydd, i dyfu’ch busnes neu wella’ch siawns o sicrhau’r swydd ddelfrydol.
Mae effaith technoleg ddigido, ar y cyd â’r dirwasgiad, wedi sicrhau bod newidiadau yn niwydiant y Cyfryngau Creadigol yn digwydd yn gynt o lawer, ac mae hynny wedi trawsffurfio ein ffyrdd o weithio. Ffocws Academi+ Skillset yw galluogi cwmnïau a rhydd-gyfranwyr Cymreig i ail-sgilio trwy gyfrwng hyfforddiant hyblyg o safon uchel sydd wedi’i deilwra’n benodol at anghenion y diwydiant yn yr oes ddigidol sydd ohoni.
Pa un ai ydych chi wedi bod yn gweithio ym myd teledu ers 30 mlynedd, yn berchen ar gwmni animeiddio neu newydd raddio mewn Darlledu Newyddiadurol, mae gennym gwrs fydd yn ategu’ch sgiliau mewn byd cyfryngol sy’n esblygu’n barhaol.
Rydym yn cynnig cyrsiau byrion a hirion fel ei gilydd gyda’n partneriaid ym myd addysg uwch a hyfforddiant. Rydym yn cynnig hefyd gyngor ac arweiniad gyrfaol arbenigol wedi’i deilwra’n benodol at eich maes arbenigol chi.




















